Amdanom

Mae Nova Cambria’n comisiynu ymchwil ac mae’n llwyfan sy’n cyhoeddi syniadau arloesol sy’n talu sylw i ddyheadau a phroblemau Cymru.

Mae’n borth ar gyfer datblygu polisi gan Grwpiau Plaid Cymru yn y Senedd, yn San Steffan a’r Senedd Ewropeaidd, ond mae’n agored i bawb, yn fan ar gyfer trafod polisi, a dadl ansectyddol, trawsbleidiol. Mae’n sganio’r gorwel:

  • I gynhyrchu atebion ymarferol i broblemau polisi.
  • I ymgysylltu â materion tymor hwy sy’n deillio o heriau parhaus cysylltiedig â materion megis y newid yn yr hinsawdd, mudo, ac yn fwy cyffredinol heneiddio a newid demograffig, a thechnoleg newydd megis roboteg a dyfodol cyfathrebu.

Mae Nova Cambria’n Gwmni Cyfyngedig drwy Warant ac mae ganddo’r Cyfarwyddwyr canlynol :




Cafodd Rhys David (Cadeirydd) ei fagu yng Nghaerdydd ac astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen. Cychwynnodd ei yrfa fel newyddiadurwr gyda’r Western Mail cyn treulio deng mlynedd ar hugain gyda’r Financial Times fel ysgrifennwr arbenigol ac wedi hynny fel golygydd adran. Mae yn awr yn ysgrifennu’n bennaf ar economi rhanbarthol a materion Cymreig. Cyhoeddodd ei lyfr Tell Mum Not to worry – A Welsh Soldier’s World War One in the Near East yn 2014.



Mae Fflur Jones yn bartner gyda’r cwmni cyfreithiol Darwin Gray lle mae’n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth, ac yn bennaeth yr adran Cyfraith Cyflogaeth. Wedi ei magu yn Llanuwchllyn, ger y Bala, astudiodd ym mhrifysgol Caergrawnt, Coleg Prifysgol Llundain a Choleg y Gyfraith, Llundain. Mae’n cyfrannu’n gyson i Radio Wales, Radio Cymru, S4C a BBC Cymru Wales. Mae hi hefyd yn eistedd ar fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a Menter a Busnes ac mae’n cadeirio Pwyllgor Safonau, Disgyblaeth ac Aelodaeth Plaid Cymru.



Mae Peter Finch yn fardd llawn amser, beirniad, awdur, ffan cerddoriaeth roc ac entrepreneur llenyddol. Hyd 2012 roedd yn Brif Weithredydd Llenyddiaeth Cymru (Academi cyn hyn) sef Asiantaeth Datblygu Llenyddiaeth Genedlaethol Cymru. Fel awdur mae’n gweithio mewn ffurfiau traddodiadol ac arbrofol. Mae’n fwyaf adnabyddus am adrodd barddoniaeth yn ei ddull theatrig, ei waith creadigol seiliedig ar ei ddinas frodorol Caerdydd, am olygu cyfres Real Seren a’i wybodaeth o’r byd cyhoeddi yn y DG. Mae ei lyfr The Roots of Rock (2015) yn olrhain y gerddoriaeth bob cam o Gaerdydd i Mississippi ac yn ôl i Gaerdydd. Bydd ei lyfr Walking Cardiff (Seren) gyda’r ffotograffydd John Briggs yn ymddangos yn hwyrach yn 2019.

Mae Jane Aaron yn ymchwilydd, yn awdur ac yn Athro Emeritws Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru. Cafodd ei haddysgu ym Mhrifysgol Abertawe a Somerville, Rhydychen ac mae’n adnabyddus am ei gwaith ar lenyddiaeth Gymreig ac ysgrifennu gan Gymraësau. Ymhlith ei chyhoeddiadau niferus gellir rhestru A Double Singleness: Gender and the Writings of Charles and Mary Lamb (1991), Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1998), Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (2007) a Welsh Gothic (2013). Mae hi hefyd yn olygydd Welsh Women’s Classics, Gwasg Honno.



Mae Patrick McGuinness yn byw yng Nghaernarfon ac mae’n Athro Ffrangeg a Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Gymrawd Coleg St Anne lle mae wedi bod yn addysgu ers 1998. Mae wedi ysgrifennu barddoniaeth, ffuglen, cofiannau a sylwebaeth wleidyddol, yn ogystal â llyfrau academaidd ac erthyglau ar lenyddiaeth Ffrengig a Saesneg. Cyrhaeddodd ei nofel The Last Hundred Days (2011) restr hir Gwobr Man Booker am Ffuglen, teitl a enillodd y wobr ‘Wales Book of the Year’. Enillodd ei gofiant Other People’s Countries: A Journey into Memory (2014) hefyd wobr ‘Wales Book of the Year’. Ei nofel ddiweddaraf yw Throw me to the Wolves, a’i lyfr academaidd diweddaraf yw Poetry and Radical Politics in fin de siècle France.



Angharad Mair
yw Cyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis, Cwmni cynhyrchu annibynnol yn Llanelli ac mae’n un o’i gyflwynwyr ar Heno, rhaglen a ddarlledir ar S4C gyda’r hwyr. Cychwynnodd ei gyrfa gyda BBC Wales lle’r oedd yn cyflwyno’r rhaglen newyddion Wales Today a Newyddion ar S4C. Mae’n Gadeirydd Bafta Cymru ac wedi ymrwymo i geisio sicrhau bod yna fwy o gyfleoedd i’r rhai sy’n dymuno gweithio yn y Diwydiannau Creadigol. Yn 1991, rhedodd ei marathon cyntaf yn Efrog Newydd ac yn 1997 cynrychiolodd Brydain Fawr ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Athens lle daeth yn 23ain ym Marathon y Menywod. Yn 2014 daeth yn drydydd ym Marathon Eryri ac yn 2017 torrodd y record marathon Ewropeaidd i fenywod dros 55 mlwydd oed, pan gwblhaodd Farathon Llundain mewn 2 awr 54 munud.

Cyfrannwch

Os yr ydych eisiau cefnogi gwaith Nova Cambria cwblhewch y ffurflen ymateb yma.

Cysylltwch

mail@novacambria.cymru