Ein Gwaith

Yn ei ymchwil a’i gyhoeddiadau bydd Nova Cambria’n mynd i’r afael â’r holl gwestiynau polisi a heriau a wynebir gan Gymru. Yn ddiau, fodd bynnag, bydd tri maes yn cael y prif sylw – yr economi, iechyd ac addysg. Mae’r nodiadau canlynol yn rhoi amlinelliad o ymagwedd a blaenoriaethau Nova Cambria.

Yr Economi

Y themâu allweddol yw:

  • Seilwaith – gosod y sylfeini ar gyfer economi llewyrchus
  • Ffyniant a rennir – Datblygu’r economi ym mhob cornel o Gymru
  • Cymru Fyd-eang – Gwerthu Cymru i’r Byd a dwyn y Byd i Gymru
  • Yr Economi Digidol – Gwneud Cymru’n brif Gyrchfan Digidol
  • Mae Cymru’n Golygu Busnes – Gwneud Cymru’r lle gorau i wneud busnes

Wrth ddatblygu syniadau newydd am y themâu hyn byddwn yn talu sylw i broblemau sylfaenol economi Cymru fel a ganlyn:

  1. Y bwlch cynhyrchiant: canlyniad diffyg buddsoddi a diffyg sgiliau.
  2. Y bwlch perchnogaeth: Absenoldeb cymharol cwmnïau a sefydliadau sy’n eiddo i Gymru.
  3. Y bwlch seilwaith: canlyniad blynyddoedd o dan-fuddsoddi.
  4. Y bwlch oedran: effeithiau Draen Dawn ar ein llwyddiant hirdymor.

Yn ddiau, y brif broblem sy’n wynebu ein heconomi yw lefelau cynhyrchiant isel parhaus sydd, yn eu tro, yn cael eu hadlewyrchu mewn Gwerth Ychwanegol Gros isel y pen ac enillion isel. Mae cynhyrchiant yng Nghymru oddeutu 80% o lefel y DG sydd yn ei dro oddeutu 80 y cant o’r lefelau ar draws gwledydd datblygedig y Grŵp o Saith (G7).

Mae cynhyrchiant yn hollbwysig oherwydd mai dyna brif benderfynydd lefelau tâl a chynaliadwyedd swyddi. Hefyd, mae gennym y graddfeydd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Gyfunol, gyda bron i 200,000 o blant – sef tua un o bob tri – yn byw mewn tlodi. Felly datblygu cynllun economaidd a fydd yn helpu i gynhyrchu ac wedyn rannu cyfoeth yng Nghymru drwyddi draw ddylai ein nod fod.

Iechyd

Mae Cymru’n buddsoddi tua £6 biliwn a 40 y cant o’i chyllideb ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, llawer ohono wedi ei gyfeirio at y Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd. Oherwydd y ddominyddiaeth hon, mae gwario ar iechyd, yn anochel, yn effeithio ar bob maes polisi arall.

Mae’r GIG ar hyn o bryd yn wynebu ei gyfnod ariannol mwyaf heriol yn ei hanes. Mae pwysau galw a chostau yn cynyddu bob blwyddyn ac yn 2014 amcangyfrifodd yr Ymddiriedolaeth Nuffield bod y pwysau yng Nghymru yn codi o ryw 3.2% yn flynyddol, heb gyfrif twf mewn effeithlonrwydd. Er gwaethaf y cynnydd yng ngwariant Llywodraeth y DG ar iechyd, a chanlyniadau ôl-ddilynol Barnet yng Nghymru, yn ôl yr argoelion mae’r pwysau’n cynyddu.

Ym mis Gorffennaf 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Gymru. Cydnabu hwn nad ydym bellach yn byw yn y byd oedd yn bodoli pan gafodd y GIG ei ddylunio. Mae pobl yn byw yn hwy, gall meddyginiaethau wneud llawer mwy, mae technoleg yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn byw, mae ffyrdd o fyw a disgwyliadau wedi newid, a thrin pobl mewn ysbytai yn ddim mwy na rhan fach o ofal iechyd a gofal cymdeithasol modern. Mae yna hefyd gydnabyddiaeth bod rhoi ystyriaeth ddifrifol i iechyd cyhoeddus yn allweddol i gymdeithas iach. Fodd bynnag, ac o bwys allweddol, mae’n osgoi’r mater o gyfuno iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn un gwasanaeth cenedlaethol sydd, o gadw mewn golwg y gyd-ddibyniaeth a gysylltir ag aml-afiachusrwydd cysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio, yn gwneud creu polisi ar frys yn gwbl angenrheidiol.

Ystyriaeth gefndir yw’r angen i fynd i’r afael â gwariant gwastrafflyd ar iechyd. Mae’r OECD wedi nodi bod oddeutu un rhan o bump o wariant ar iechyd yn gwneud dim neu ychydig o gyfraniad i ganlyniadau iechyd da. Ac nid hynny’n unig; dengys data o lawer gwlad, yn cynnwys Cymru, bod un o bob deg claf yn cael eu niweidio’n dilyn eu derbyniad i ysbyty.

Mae blaenoriaethau iechyd yn cynnwys:

  • Cyfuno gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn un gwasanaeth cenedlaethol i Gymru.
  • Datblygu cynllun yswiriant cynhwysol Cymreig cyfranogol ar gyfer cartrefi gofal i bobl hŷn.
  • Symud y pwyslais o’r ysbyty i ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol o dan arweiniad ymarferwyr cyffredinol yn y gymuned.

Mae Nova Cambria hefyd yn ymddiddori mewn talu sylw i bedwar cyfaddawd a wnaed gan Aneurin Bevan pan sefydlodd y GIG yn 1948:

  1. Parhad practis preifat gan arbenigwyr ymgynghorol.
  2. Parhad statws Ymarferwyr Cyffredinol fel gweithredwyr preifat gwasanaeth cyhoeddus.
  3. Ynysu ac israddio rhai o swyddogaethau’r GIG (Iechyd Cyhoeddus yn bennaf) oedd fel arall yn gynhwysfawr.
  4. Absenoldeb atebolrwydd lleol democrataidd ar bob lefel o’r GIG.

Addysg

Fel cenedl a fu unwaith yn enwog am ei pherfformiad addysgol, yn y degawdau diweddar mae Cymru wedi bod ar ei hôl hi. Mae hyn yn fwyaf amlwg yn ein sefyllfa ddirywiol yn nhabl Rhaglen Asesu Myfyrwyr Tramor (PISA) y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyfer plant rhwng 11 a 14 mlwydd oed yng Nghyfnod Allweddol 3. Dengys y rhain bod Cymru’n perfformio’n waeth na Llundain, Gogledd Iwerddon, a’r Alban, a’i bod yn is na chyfartaledd (OECD).

Problem gyda datblygu polisi yn y maes hwn yw bod profiad wedi dangos bod arfer da yn teithio’n wael. Her o bwys yw darganfod sut y gellir trosglwyddo arferion mewn ysgolion sy’n perfformio’n dda i’r rhai hynny nad ydynt yn perfformio gystal. Mae hyn hefyd yn berthnasol o fewn ysgolion.

Mae ymchwil cyfredol wedi dangos bod gwelliant ysgolion yn dibynnu ar:

  • Arweinyddiaeth, hunanasesiad a chymorth allanol.
  • Yr ethos a’r awyrgylch o fewn ysgolion.
  • Addysgu a dysgu arloesol.
  • Casglu a defnyddio data.
  • Mynd i’r afael â thangyflawni a diffyg sgiliau sylfaenol.
  • Gwella rôl a statws athrawon.

Tra bod rhestru’r gofynion hyn yn gymharol hawdd mae’n anoddach sicrhau bod arfer da’n cael ei weithredu. Mae meysydd lle dylid ffocysu sylw arnynt wrth greu polisi’n cynnwys:

  1. Dulliau o adeiladu ar fentrau sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda’r blynyddoedd cynnar.
  2. Adnabod gwendidau mewn datblygiad ar draws grwpiau oedran, er enghraifft, symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, ac o’r ysgol uwchradd i addysg drydyddol ac addysg uwch.
  3. Rôl addysg cyfrwng Cymraeg a’i chysylltiad ag ysgolion cyfrwng Saesneg: sut ellir minimeiddio natur ieithyddol ddeuaidd addysg Gymreig?
  4. Beth sydd ei angen yn nhermau datblygu cwricwlwm. Er enghraifft, sut ddylai’r fenter Bagloriaeth Gymreig gael ei symud rhagddi?
  5. Yr angen i fynd i’r afael â’r problemau sydd wrth wraidd yr economi Gymreig yn deillio o danberfformio addysgol a diffyg sgiliau, yn nhermau llythrennedd a rhifedd a sgiliau galwedigaethol yn fwy cyffredinol.